Gabby Joseph (llun cyhoeddusrwydd)
Roedd cannoedd o alarwyr yn Amlosgfa Margam y bore yma ar gyfer angladd Gabby Joseph, y ferch ifanc a gafodd ei lladd gan drên yn Llansawel, ger Castell Nedd.

Roedd y cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Ystalyfera yn 16 oed ac roedd disgwyliadau mawr fod gyrfa ddisglair fel model o’i blaen.

Ers ei marwolaeth nos Lun y Pasg, mae cannoedd o deyrngedau wedi eu cyhoeddi iddi ar-lein, a phentyrrau o flodau gerllaw’r lle cafodd ei lladd.

Cafodd Gabby, a oedd yn fyfyrwraig yng Ngholeg Gŵyr, Gorseinon, ei disgrifio fel merch ddawnus a phoblogaidd gyda llawer o ffrindiau.

Harddwch

“Roedd hi’n ferch brydferth, ond roedd yr harddwch mewn gwirionedd yn dod oddi mewn,” meddai Richie Crossley, ffotograffydd ffasiwn o Abertawe a oedd wedi tynnu ei lluniau amryw o weithiau.

“Roedd yn llawn bwrlwm, yn ddoniol a llawer o bobl yn meddwl y byd ohoni.”

Cafodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain hyd i’w chorff tua 9.30 nos Lun y Pasg ar ôl i yrrwr trên o Aberdaugleddau i Caerdydd ddweud iddo daro rhywun wrth fynd trwy orsaf Llansawel.

Dyw’r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus, ond mae plismyn yn helpu’r crwner i ddarganfod beth yn union a ddigwyddodd.

Bwriad ei theulu oedd i’r gwasanaeth angladd fod yn ddathliad o’i bywyd – ac roedden nhw wedi dweud wrth ei chyfeillion nad oedd angen iddyn nhw wisgo dillad du ar gyfer yr achlysur.