Llys y Goron Caerdydd
Fe fydd dynes yn sefyll ei phrawf yn Llys y Goron Caerdydd heddiw ar gyhuddiad o lofruddio ei mab awtistig.

Honnir bod Yvonne Freaney 49, wedi tagu Glen, ei bachgen 11 oed, mewn ystafell yng ngwesty’r Sky Plaza ger maes awyr Caerdydd ym mis Mai’r llynedd.

Roedd hi wedi bod yn byw mewn un gwesty ar ôl y llall ar y pryd.

Ar ôl cael ei chyhuddo o lofruddio, cafodd ei chadw yng nglinic Caswell, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.