Mae gorsafoedd pleidleisio wedi agor ledled Cymru ar gyfer etholiad y Cynulliad a refferendwm ar newid y drefn o ethol Aelodau Seneddol.

Mae ymgeiswyr etholiad y Cynulliad yn cystadlu am 60 o seddau – 40 o Aelodau Etholaeth, ac 20 o aelodau rhestr i bum rhanbarth ledled Cymru.

Hyd at ddiwedd mis Mawrth, Llafur oedd yn dal 26 o seddau yn y Cynulliad, gyda Phlaid Cymru ar 14, y Ceidwadwyr ar 13, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 6, ynghyd ag un aelod annibynnol.

Gobaith Llafur fydd ennill digon o seddau ychwanegol i gael mwyafrif dros bawb fel y bydden nhw’n gallu llywodraethu ar eu pennau eu hunain heb orfod mynd i glymblaid. Fe fydd arnyn nhw angen pum sedd ychwanegol i wneud hyn, ac mae’r arolygon barn yn awgrymu bod hyn o fewn eu cyrraedd, ond y gall fod yn agos iawn.

Fe fydd canlyniadau Cymru’n cael eu cyfrif dros nos heno, ac eithrio rhai’r gogledd, a fydd yn cael eu cyfrif fore yfory. Yfory hefyd y bydd pleidleisiau’r refferendwm yn cael eu cyfrif.