Aamir Siddiqi
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth llanc o Gaerdydd wedi dweud eu bod nhw wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Cafodd dyn 36 oed sy’n byw yn lleol ei arestio yng Nghaerdydd.

Fe fuodd Aamir Siddiqi, 17 oed, farw ar ôl cael ei drywanu ar stepen drws y ffrynt ei gartref ar 11 Ebrill 2010.

Cafodd ei rieni eu hanafu’n ddifrifol hefyd.

Roedd yr heddlu wedi ail-apelio am wybodaeth fis diwethaf, blwyddyn ar ôl ei farwolaeth.

Mae dau ddyn 36 a 37 oed eisoes yn y ddalfa wedi eu cyhuddo o lofruddio Aamir Siddiqi a cheisio llofruddio ei rieni.