Y daflen
Mae’r Blaid Lafur wedi rhoi’r gorau i gylchlythyru taflen ddadleuol yn Aberconwy ar ôl i ddau o’r pleidiau eraill fygwth camau cyfreithiol.

Roedd Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cwyno am un o daflenni’r Blaid Lafur gan ddweud ei bod yn gwneud honiadau enllibus yn erbyn eu hymgeiswyr nhw.

Roedd y daflen yn honni bod ymgeiswyr y ddwy blaid wedi colli swyddi i’r ardal.

Mewn llythyr at Bennaeth yr Uned Polisi ac Ymgyrchu Plaid Cymru, Geraint Day, dywedodd y Blaid Lafur na fyddwn nhw’n cylchredeg y daflen o hynny ymlaen.

“Rydw i wedi gorchymyn na ddylid cylchredeg y daflen mwyach wrth i ni edrych ar y mater yn fanylach,” meddai David Hagendyk, Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru.

“Rydyn ni hefyd yn trafod gyda’n cyfreithiwr ein hunain ac fe fyddai’n amhriodol cynnig sylw pellach ar hyn o bryd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod “y Blaid Lafur yn amlwg wedi derbyn fod y daflen yn amhriodol”.

“Mae’n fater difrifol ac mae taflen y Blaid Lafur yn cynnwys sawl cyhuddiad sydd ddim yn wir ac mae’n ffeithiol anghywir.

“Mae pleidleiswyr Aberconwy yn haeddu cael gwybod am y ffeithiau anghywir yma.”