Carwyn Jones
Mae’r pôl piniwn olaf cyn Etholiadau’r Cynulliad yn awgrymu y bydd y Blaid Lafur yn ennill mwyafrif am y tro cyntaf erioed.

Mae pôl piniwn YouGov yn awgrymu y bydd gan y Blaid Lafur fwyafrif o un sedd, ar ôl iddyn nhw fethu a sicrhau hynny yn 2007.

Cipiodd y blaid 28 sedd yn 1999, 30 yn 2003, a 26 yn 2007.

Roedd pôl piniwn gafodd ei gynnal ddiwedd mis Ebrill ac a gyhoeddwyd gan y Byd ar Bedwar ddydd Llun yn awgrymu na fyddai gan y Blaid Lafur fwyafrif.

Ond yn ôl y pôl piniwn diweddaraf fe fydd Llafur yn cipio 31 sedd, y Ceidwadwyr ar 13 sedd, Plaid Cymru ar 11 sedd, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 5.

Bydd y Blaid Lafur yn cael 47% o’r bleidlais yn yr etholaethau, y Ceidwadwyr yn cael 20%, Plaid yn cael 18%, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 9%.

Yn y rhanbarthau fe fydd Llafur yn cael 43%, y Ceidwadwyr yn cael 19%, Plaid ar 18%, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 8%.

‘Ras dau geffyl’

Dywedodd Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod y pôl piniwn yn brawf mai “ras dau geffyl” rhwng y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur sydd yng Nghymru.

“Mae gan bleidleiswyr ddewis clir rhwng pum mlynedd arall o wario anghyfrifol, camreolaeth economaidd, a thoriadau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dan y Blaid Lafur neu lais newydd dros Gymru â’r Ceidwadwyr Cymreig,” meddai.

Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes, cyn-golofnydd gyda chylchgrawn Golwg, mai etholiad 2011 oedd y pwysicaf yn hanes y Cynulliad.

“Fe fydd tymor nesaf y Cynulliad yn unigryw am ddau reswm – fe fydd modd creu deddfau heb gyfeirio at San Steffan, a’r tro cyntaf, os yw’r polau piniwn yn gywir, y bydd gan y Blaid Lafur fwyafrif clir.

“Bydd hynny yn rhoi cyfrifoldeb mawr ar y llywodraeth sydd mewn grym ac fe fydd y Cynulliad yn llawer mwy cyffrous am na fydd unrhyw bleidlais yn saff.”