Gavin Henson
Mae Toulon wedi cadarnhau bod Gavin Henson yn aros gyda’r clwb yn dilyn ei waharddiad. 

Roedd yna adroddiadau yn Ffrainc y byddai Toulon yn gollwng y Cymro ar ôl iddo gael ffrae gyda rhai o’i gyd-chwaraewyr yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Toulouse. 

Roedd Henson ond wedi chwarae dwy gêm i’r clwb ers ymuno wrth y Saraseniaid, ac fe ddywedodd llywydd Toulon, Mourad Boudjellal, bod y canolwr yn anodd ei reoli.

Fe ddywedodd llywydd Toulon ei fod wedi penderfynu’r wreiddiol i ryddhau Henson, ond yn dilyn tystiolaeth newydd, fe fydd y Cymro’n aros gyda’r clwb. 

“Roedden ni wedi penderfynu dydd Llun diwethaf i wahanu fy hun wrth Gavin, ond roedd tystiolaeth newydd wedi gwneud i fwy ystyried yn hirach,” meddai Mourad Boudjellal.

Mewn datganiad fe ddywedodd Toulon bod y llywydd a’r staff hyfforddi wedi penderfynu gadael Gavin Henson i ail ymuno gyda’r garfan. 

Fe ddaw’r newyddion ar yr un adeg ag adroddiadau bod y clwb Ffrengig gyda diddordeb yn arwyddo Danny Ciprianni. 

Mae rheolwr Toulon, Tom Whitford wedi awgrymu y galle’n nhw maswr newydd dros gyfnod Cwpan y Byd. 

Fe fydd y clwb yn colli Jonny Wilkinson, Felipe Contepomi a Matt Giteau adeg Cwpan y Byd, ac mae Whitford yn cydnabod bod angen rhywun arnynt yn y tymor byr. 

“R’y ni mewn cysylltiad gyda nifer o chwaraewyr yn Ffrainc a thramor.  R’y ni’n chwilio am faswr sy’n gallu chwarae yn y Top 14 dros gyfnod Cwpan y Byd,” meddai Tom Whitford.