Waldo Williams
Mae plac i goffau un o feirdd Cymraeg mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif yn mynd i gael ei ddadorchuddio cyn hir, mewn ysgol yn Swydd Caergrawnt.

Mae cymdeithas Waldo wedi trefnu’r digwyddiad ar y cyd â chymdeithas hanes leol yn Huntingdon, lle bu’r bardd yn dysgu yn 1944.

Yn ôl Hefin Wyn, o Gymdeithas Waldo, mae’r lle yn arbennig yn hanes Waldo Williams, am mai yno yr ysgrifennodd rhai o’i gerddi enwocaf, yn fuan wedi iddo golli ei wraig Linda.

“Dyma pryd y gwnaeth e gyfansoddi rhai o’i gerddi gorau, fel Preseli,” meddai Hefin Wyn, “sy’n annwyl iawn i ni yma.

Bu plant ysgol Kimbolton, yn Sir Gaergrawnt, yn cynnal gwasnaetha i gofio Waldo Williams yn ddiweddar, am y cyfnod a dreuliodd yn yr ardal yn dysgu ac yn ysgrifennu.

Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg