Tu Hwnt i'r Bont, Llanrwst (NoelWalley CCA 3.0)
Mae busnesau lleol wedi wfftio syniad i godi cerflun enfawr o bompionen ger Llanrwst yn Nyffryn Conwy.

Yn ôl cefnogwyr y cynllu, fe fyddai’r cerflun yn fwy na 130 o droedfeddi o uchder ac yn cystadlu am sylw gyda ‘The Angel of the North’ yn ardal Newcastle.

Er bod yr artist o Efrog Newydd, Steven Brower, yn dweud bod y syniad wedi’i ysbrydoli gan draddodiad o dyfu pwmpenni yn yr ardal, doedd pobol fusnes lleol erioed wedi clywed am hynny.

Ond mae Grŵp ARC yn Llanrwst yn cefnogi’r cynllun, gan ddweud y bydd yn denu twristiaid.

Pam?

“Fy ymateb cyntaf oedd – pam bod nhw’n mynd i Efrog Newydd i hyrwyddo twristiaeth yn Nyffryn Conwy,” meddai Tim Maddox, perchennog caffi Tu Hwnt i’r Bont wrth Golwg360. “Siawns y byddai’n well cael artist o Gymru i wneud hyn.

“Dydw i ddim yn ymwybodol bod yna hanes pwmpenni o gwbl i ardal Dyffryn Conwy, ond maen nhw’n enfawr yn America.

“Dw i’n amau maint y cerflun, lleoliad y cynllun a’r ffaith ei fod o’n bwmpen. Rydan ni yn Nyffryn Conwy’n defnyddio natur a’n hadnoddau naturiol i ddenu pobl yma.

“Yn y lleoliad yma, byddai’n difetha’r Dyffryn. Fydda’ pobl ddim yn edrych ar beth sydd o’i amgylch – dim ond y bwmpen ei hun. Mae’r syniad yn hurt.”

Tjecio’r calendr

Roedd perchennog siop lyfrau Gymraeg Bys a Bawd, Dwynwen Berry, wedi dweud wrth y rhaglen radio Taro’r Post, ei bod wedi edrych ar y calendr pan glywodd am y cynllun – er mwyn gwneud yn siŵr nad Ebrill 1 oedd hi.

Ond mae un dyn busnes arall yn fodlon ystyried y syniad, er ei fod yntau mewn penbleth ynglŷn â’r ‘traddodiad pwmpenni’.

“Dw i’n meddwl y bydd o’n dda os ydi’r cynllun a’r dyluniad yn eiconig a neis,” meddai Elwyn Edwards, perchennog Caffi Contessa, Llanrwst wrth Golwg360.

“Mi fyddai’n braf gweld rhywbeth yno. “Ond, dw i wedi byw yma ers bron i 40 blynedd a doeddwn i ddim yn gwybod dim byd am yr hanes tyfu pwmpenni yn yr ardal.”

Y cefndir

Byddai’r bwmpen yn cael ei chodi yng Nghoedwig Gwydir ger y labrinth lle mae perfformiadau celfyddydol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd  byddai i’w gweld am filltiroedd o gwmpas Llanrwst.

Mae’r artist wedi ymweld â’r ardal sawl gwaith dros y ddegawd ddiwethaf ac wedi datblygu’r cynlluniau ar ôl “gweld pwmpenni yn tyfu y tu allan i waliau’r castell,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn gwneud gymaint o bantomeims yn yr Unol Daleithiau. Fe welais i un am y tro cyntaf yn VenueCymru, Llanduno, ac mae’n draddodiad rhyfedd iawn ond hardd yma,” meddai’r artist wrth siarad am y cynlluniau.

“Mae fy mhwmpen enfawr i yn dathlu hynny. Mae hefyd yn talu gwrogaeth (homage) i dyfwyr pwmpenni Dyffryn Conwy dros y canrifoedd”.