Islwyn Morris
Fe fu farw’r actor Islwyn Morris, a oedd yn wyneb adnabyddus i wylwyr S4C am flynyddoedd fel David Tushingham ar Pobol y Cwm.

Roedd yn 90 oed ac yn hanu o Abertawe, lle dechreuodd ar ei yrfa yn Theatr y Grand yn y ddinas.

Roedd hefyd yn actor adnabyddus ar raglenni Saesneg, ac mae’n debyg mai ei ran enwocaf oedd fel y tad, Idris, ar gyfres gomedi’r BBC, Satellite City.

Ymysg y cyfresi teledu eraill y bu’n cymryd rhan ynddyn nhw yn y gorffennol roedd Z Cars a District Nurse yn y Saesneg a Glas y Dorlan yn y Gymraeg. Fe chwaraeodd ran flaenllaw hefyd yn y ddrama Bydd yn Wrol a enillodd wobr BAFTA i Mathew Rhys.