Llun o glawr hunangofian W.J. Gruffydd - 'O Ffair Rhos i'r Maen Llog' (Gwasg Gomer)
Fe fu farw’r cyn Archdderwydd, y bardd a’r storïwr, W. J. Gruffydd y Glog yn 94 oed.

Roedd wedi ennill y Goron Genedlaethol ddwywaith – yn 1955 ac 1960 – ac, o dan yr enw barddol Elerydd, fe ddaeth yn Archdderwydd yn 1983. Roedd ei bryddest Ffenestri yn boblogaidd iawn.

Er iddo gyhoeddi nofelau, cyfrolau o farddoniaeth a dwy gyfrol o hunangofiant, fe fydd llawer o bobol yng ngorllewin Cymru’n ei gofio am ei gyfrolau o straeon digri Tomos a Marged.

Roedd y rheiny wedi’u cyhoeddi ym mhapur y Cambrian News ac yn sôn am helyntion hen gwpwl gwledig – fe gawson nhw ganmoliaeth hyd yn oed gan Saunders Lewis.

Ac yntau wedi’i eni yn Ffair Rhos, fe ddaeth W. J. Gruffydd dan ddylanwad nythod o feirdd yno ac wedyn cael ei sbarduno gan Dewi Emrys a’i golofn bapur newydd Y Babell Awen.

Ar ôl y rhyfel, fe aeth i’r weinidogaeth gyda’r Bedyddwyr a threulio cyfnodau yn ardal Meidrim, Sir Gaerfyrddin; Talybont, Ceredigion a ddwywaith yn ardal Hermon a’r Glog yn Sir Benfro.

Yn ddiweddarach, fe fu’n gofalu am eglwysi yn ardal Llanbed a Llanddewi Brefi.