Cylch Meithrin Llundain
Mae pryder am ddyfodol un o gylchoedd meithrin Llundain.

Gallai’r Cylch Ti a Fi sy’n cael ei gynnal yn ne’r ddinas gau oni bai i ragor o deuluoedd ymuno â nhw.

“Mae gyda ni chwe theulu ar y foment ond ym mis Medi dim ond dau deulu fydd ar ôl  oherwydd bod y plant yn dechrau yn yr ysgol – rhai i’r Ysgol Gymraeg ac yna i ysgolion arall yn Llundain.” meddai Heledd Owen sydd ag un plentyn yn y Cylch Ti a Fi sy’n cwrdd yn festri capel Cymraeg Clapham Junction sydd mewn perygl o gau ym mis Medi.

“I fwyafrif o’r plant, dyma’r unig amser cymdeithasol maen nhw’n cael trwy’r Gymraeg yn ystod yr wythnos.

“Mae mynd i Gylch Ti a Fi bob bore dydd Llun yn gam hanfodol i sicrhau bod gyda nhw gyd yn cael cyfle i siarad Cymraeg wrth dyfu lan yn Llundain – mae’n wych gweld eu Cymraeg nhw’n datblygu wythnos wrth wythnos o fedru dod i Cylch a byddai’n drasiedi bod dim cyfle gyda ni gyd gwrdd oherwydd diffyg niferoedd.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 21 Ebrill