Llun o wefan yr ŵyl
Mae grŵp Cristnogol yn bwriadu picedu Mardi Gras cyntaf Gogledd Cymru dros y penwythnos.
Dywedodd grŵp Christian Voice wrth Golwg360 mai nod aelodau’r grŵp fydd “pamffledu ac yn siarad â’r cyhoedd” wrth fynedfa’r digwyddiad ger Gwalchmai ar Ynys Môn.
“Ein neges ni fod rhaid i bawb fyw o fewn cyfreithiau Duw. Mae gwrywgydiaeth yn mynd yn gwbl groes i orchymyn yr Arglwydd,” meddai Stephen Green, Cyfarwyddwr Gweinidogaeth Christian Voice yng Nghaerfyrddin, wrth Golwg360.
“Dydw i ddim yn credu fod unrhyw un yn cael ei eni’n hoyw,” meddai cyn dweud mai “emosiynau a’r meddwl” sy’n llunio rhywioldeb person.
“Rydan ni eisiau cysylltu â nhw a dweud bod yna ffordd well o fyw,” meddai. “Os ydi rhywun wir eisiau newid a byw dan Iesu Grist, mae iachâd yn bosibl.
“Bydd yr holl bechaduriaid, gan gynnwys gwrywgydwyr, yn mynd i dân uffern,” meddai cyn dweud mai ei brif obaith yw y bydd y genedl yn “edifarhau” a “throi at Dduw”.
Doedd Stephen Green ddim yn fodlon datgelu faint o aelodau sydd gan ei weinidogaeth yng Nghaerfyrddin.
‘Gwerthiant tocynnau’n well’
Dywedodd Keith Parry, un o drefnwyr y Mardi Gras, wrth Golwg360 ei fod yn disgwyl y bydd y sylw a ddaw yn sgil bygythiad Christian Voice yn helpu i werthu tocynnau.
Mae “tocynnau eisoes wedi gwerthu’n well dros y penwythnos,” meddai.
“Dydyn ni ddim yn poeni eu bod nhw’n dod o gwbl. Fydd pobol ddim yn cymryd sylw ohonyn nhw. Fe fydd y ffair yn gwneud cymaint o sŵn, fydd neb yn eu clywed nhw.
“Dydw i ddim eisiau i bobl guddio eu rhywioldeb – os ydyn nhw’n teimlo fel gafael dwylo a chusanu dw i eisiau iddyn nhw wneud hynny a pheidio talu sylw iddyn nhw.”
‘Dim lle i anwybyddu’
Dywedodd y Parch. Emlyn Richards, sydd gweithio gyda’r Eglwys Bresbyteraidd ar yr ynys ers blynyddoedd, na fyddai’n “mynd mor bell a chefnogi” y Mardi Gras ond na fyddai chwaith yn ei “wrthwynebu”.
“Mae fy ffydd yn dweud na ddylid anwybyddu neu ddibrisio unrhyw un,” meddai wrth Golwg360.
“Mae’n rhaid i ni gofio ein bod ni’n byw yn negawd cyntaf y 21ain Ganrif, sy’n fyd hollol wahanol i ganol yr ugeinfed ganrif.
“Mae’n anodd iawn, iawn mynd mor bell a gwrthwynebu unrhyw un sy’n hoyw.”
Cyhoeddusrwydd
Dywedodd y Cynghorydd Owen Glyn Jones, Aberffraw, wrth Golwg360 ei fod yn “pryderu” fod y digwyddiad yn cael “cymaint o gyhoeddusrwydd”, ac nad oedd yn credu y dylai plant gael mynd yno.
“Dydw i ddim yn ei weld o’n beth naturiol. Dydw i ddim yn hoyw a dydi fy nheulu i ddim yn hoyw,” meddai.
“Dydw i ddim yn credu y dylai plant bach ifanc fynd – rhai sydd ddim yn sicr am eu teimladau eu hunain.”
Dywedodd y Cynghorydd Robert Parry, sy’n cynrychioli’r ward fydd yn cynnal y digwyddiad, mai dim ond un person oedd wedi crybwyll y peth.
“Pawb at y peth y bo. Ni fydd y digwyddiad yn gwneud drwg,” meddai.
“Gobeithio y bydd pobl yn gwario mymryn o arian yn Sir Fôn hefyd. Yr unig beth ’dw i’n gobeithio ydi na fydd yna unrhyw drwbl – dw i eisiau i bobl fwynhau yno ac wedyn gadael.