Mae penderfyniad Cyngor Caerdydd i wario £9 miliwn ar ysgol gynradd iaith Gymraeg – sef y swm mwyaf i gael ei wario ar ysgol gynradd yn y brifddinas erioed – wedi cael croeso gan ymgyrchwyr sydd wedi brwydro’n galed.

Mae grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi dweud wrth Golwg360 heddiw eu bod yn “croesawu” penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Caerdydd i gymeradwyo cynlluniau er mwyn codi ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sbon ar gyfer ardal Treganna.

Ddoe, fe wnaeth Cyngor Caerdydd gymeradwyo cynllun i symud Ysgol Treganna i Ffordd Sanatoriwm. Mae disgwyl y bydd yr ysgol newydd wedi’i chodi erbyn mis Medi 2013.

Gyda’r cynllun newydd, fe fydd Ysgol Treganna’n cael adeilad newydd gwerth £9 miliwn wedi’i godi ar dir sy’n eiddo i’r cyngor ac yn datblygu i fod yn ysgol gyda thri dosbarth derbyn a meithrinfa.

“Nodwn mai dyma’r swm mwyaf erioed i Gyngor Caerdydd ei fuddsoddi mewn ysgol gynradd ac mae’n arwydd pendant o’u hymrwymiad i addysg Gymraeg a’i ddatblygiad yn y brifddinas,” meddai Nona Gruffudd Evans, Cadeirydd RhAG Caerdydd wrth Golwg360.

“Yn dilyn cyfnod hirfaith o ymgyrchu diflino gan rieni Ysgol Treganna a’i chwaer ysgol Tan-yr-Eos dyma arwydd o sicrwydd a sefydlogrwydd nid yn unig i rieni presennol yr ysgolion hynny ond hefyd i rieni’r dyfodol.”

‘Angenrheidiol’

“Wedi blynyddoedd o ansicrwydd mae hyn yn gwbl angenrheidiol i roi hyder i’r nifer cynyddol o rieni yn yr ardal sydd am roi addysg Gymraeg i’w plant. Mae pwysigrwydd cyhoeddiad yr wythnos yma felly yn cynrychioli datblygiad gyda sgil-effeithiau pellgyrhaeddol tu hwnt i ffyniant addysg Gymraeg yng Nghaerdydd,”  meddai Nona Gruffudd Evans.

Fe aeth hi’n ffrae rhwng Plaid Cymru a Llafur ynghynt eleni ar ôl i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wrthod cynnig i gyfuno dwy ysgol gynradd Saesneg yn ardal Treganna a symud yr Ysgol Gymraeg i’r adeilad gwag.

Mae Ysgol Treganna’n fwy na gorlawn, gyda honiadau bod plant ag anghenion arbennig yn derbyn gwersi mewn stafell gwpwrdd. Mae’r broses o geisio cael ateb arall wedi cymryd blynyddoedd.

“Gan fod Pwyllgor Gwaith Cyngor Caerdydd bellach wedi cytuno y dylid mynd ati i adeiladu ysgol newydd, gobeithiwn y bydd yr amgylchiadau gorlawn y bu’n rhaid i lawer o ddisgyblion eu dioddef gydol eu haddysg gynradd yn cael ei ddatrys cyn bo hir,” meddai Nia Williams, Ysgrifennydd Grŵp Ymgrychu Treganna a Than yr Eos.