Ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd flynyddol un o undebau athrawon Cymru, mae un o’r swyddogion wedi cyfaddef fod yr aelodau yn teimlo’n isel eu hysbryd.

“Mae morâl yn isel ymysg athrawon oherwydd cyfres o adroddiadau ym myd addysg. Mae athrawon yn poeni am safonau addysg, maen nhw eisiau i addysg fod yn dda,” meddai Rebecca Williams, sy’n Swyddog Polisi gydag Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC).

Yn ddiweddar mae sawl adroddiad beirniadol wedi’i gyhoeddi sy’n casglu fod plant Cymru ar ei hol hi o ran safonau addysg.

Mae Rebecca Williams yn teimlo bod gormod o’r bai am y sefyllfa yn cael ei roi ar athrawon.

“Dyw’r llywodraeth ddim wedi bod yn fwy llawdrwm ar athrawon na rhannau eraill o addysg. Mae’r cyfryngau wedi pwysleisio bai’r athrawon a’r ysgolion am ei bod hi yn stori rwyddach i’w hadrodd. Ond mae yna fai ym mhob rhan o system addysg Cymru,” meddai.

Yn ôl y Swyddog Polisi mae aelodau UCAC yn cytuno gyda’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews bod gormod o gynlluniau gwella addysg wedi eu cyhoeddi, a bod angen canolbwyntio ar sgiliau sylfaenol fel darllen a chyfrif.

Bydd yna gynnig yn y gynhadledd i roi’r pwyslais ar y gallu i sgrifennu a darllen yn ystod cyfnod sylfaen plentyn yn yr ysgol, ac mae Rebecca Williams yn darogan y bydd y cynnig hwnnw yn cael ei basio.

Athrawon i streicio?

Un pwnc arall fydd yn codi ei ben yn ystod y deuddydd yw’r newidiadau allai gael eu cyflwyno i bensiynau athrawon a darlithwyr.

Yn ystod y gynhadledd fe fydd cynnig yn cael ei wyntyllu sydd yn gofyn i’r aelodau fod yn barod i ‘weithredu’n gadarn’ ynglŷn â’r newid yn y cynllun pensiwn.

Gallai’r cynnig olygu pleidleisio yn nes ymlaen – ond ddim yn y gynhadledd ei hun – er mwyn gweld a yw’r aelodau eisiau mynd ar streic.

Gydag UCAC hefyd yn dathlu 70 mlynedd ers cael ei sefydlu mae Rebecca Williams yn teimlo bod perthyn i undeb yn gynyddol bwysig y dyddiau yma wrth i’r awdurdodau orfod chwilio am ffyrdd o arbed arian.

“Mae yna fygythiad nid yn unig i swyddi ond gwasanaethau hefyd,” meddai’n cyfeirio at y toriadau i arian y sector gyhoeddus.

“ Ar lefel unigolion mae [bod yn aelod o Undeb] yn rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw. O ran lobïo a phwyso ar y llywodraeth, mae llawer mwy o rym gydag undeb sydd yn siarad ar ran miloedd, nac un llais bach athro.”

Bydd cynhadledd UCAC yn cael ei chynnal yn Llandrindod heddiw ac yfory.