Llyndy Isaf (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud eu bod nhw’n “siomedig iawn” nad yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi crybwyll y Gymraeg wrth hysbysebu swydd eu cyfarwyddwr yng Nghymru.

Mae’r swydd sy’n talu tua £85,000 yn gofyn am “arweinydd llawn ysbrydoliaeth” all arwain yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gyfnod o “newid”.

“Yn syml, byddwch yn gwneud popeth o fewn eich gallu i gynnwys pawb yng Nghymru, yn fewnol ac yn allanol,” meddai’r hysbyseb.

Ond, does dim byd yn yr hysbyseb yn dweud y byddai gallu’r iaith yn hanfodol nac yn ddymunol.

Dyddiad cau’r swydd yw 25 Ebrill, 2011. Iwan Huws oedd Cyfarwyddwr Cymru’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn hyn.

Meini Prawf

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth Golwg360 heddiw nad oedd gallu’r Gymraeg yn hanfodol er mwyn gwneud y swydd.

Dywedodd bod y swydd wedi’i chreu gan yr ymddiriedolaeth yn ganolog ac y bydd y cyfarwyddwr newydd yn atebol i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Simon Murray.

“Ei benderfyniad ef yw meini prawf y swydd,” meddai cyn ychwanegu fod Hilary McGrady o Ogledd Iwerddon wedi bod yn gwneud y swydd dros dro ers blwyddyn a hanner bellach.

O fewn y flwyddyn a hanner diwethaf roedd y swydd wedi eu hysbysebu tair gwaith heb iddyn nhw allu dod o hyd i’r person iawn, meddai.

Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus “nabod Cymru ond deall y byd tu allan hefyd,”  meddai’r llefarydd cyn dweud mai’r “peth pwysicaf ydi cael y person iawn”.

‘Problem ar gynnydd’

“Mae hyn yn broblem sydd ar gynnydd,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360.

“Mae mwy a mwy o swyddi yng Nghymru, er enghraifft ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, cynghorau sir a hyd yn oed y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cael eu hysbysebu heb nodi fod y Gymraeg yn hanfodol.

“Yn yr achos yma nid yw’n ymddangos fod unrhyw ystyriaeth yn cael ei roi i’r Gymraeg, sydd yn siomedig iawn. Os nad yw’r sefydliadau hyn yn cymryd y Gymraeg o ddifrif, a oes gobaith mewn cwmnïau eraill?

“Mae angen i fudiadau iaith ddod at ei gilydd a sicrhau bod y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith.”