Bydd cwmnïau sy’n caniatáu i bobol dan 18 oed ddefnyddio gwelyau haul yn wynebu dirwy o £200,000 o heddiw ymlaen.

Fe fydd y rheolau newydd yn atal pobol ifanc rhag defnyddio gwelyau haul mewn salonau lliw haul, siopau prydferthwch, canolfannau hamdden, campfeydd a gwestai.

Yn ogystal â hynny fydd pobol dan 18 oed ddim yn cael mynediad i lefydd sydd wedi eu neilltuo ar gyfer defnyddwyr gwelyau haul.

Daw Deddf Gwelyau Haul 2010 i rym ar ôl i waith ymchwil a gyhoeddwyd ddechrau’r wythnos ddangos bod mwy na dau berson dan 35 yn cael diagnosis o ganser y croen bob diwrnod yng Ngwledydd Prydain.

Angen ‘dilyn esiampl Cymru’

Bydd y rheolau newydd yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr, ond fe fyddwn nhw’n fwy llym yr ochr yma i’r ffin.

Dywedodd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd nad yw’r gwaharddiad yn Lloegr yn mynd yn ddigon pell ac y dylen nhw ddilyn esiampl Cymru.

O Hydref 31 ymlaen yng Nghymru, bydd rhaid i salonau lliw haul yng Nghymru gadw llygad ar bob oedolyn sy’n defnyddio’r gwelyau haul, a darparu gwybodaeth am eu heffaith ar iechyd.

“Rydyn ni’n hapus iawn fod y gyfraith yn dod i rym ac yn credu y bydd yn gwarchod pobol ifanc sydd yn agored i niwed,” meddai Andrew Griffiths, swyddog polisi’r Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

“Serch hynny rydyn ni’n annog Llywodraeth San Steffan i ddilyn esiampl Llywodraeth y Cynulliad a rhoi rheolau newydd ar waith fydd yn gwarchod oedolion sy’n defnyddio gwelyau haul.”

Roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn 2009 yn dangos fod 8.2% o blant Cymru rhwng 11 – 17 oed wedi defnyddio gwely haul o leiaf unwaith.

“Ein blaenoriaeth yw diogelu plant a phobol ifanc, ac mae’r rheolau hefyd yn gorfodi pobol sy’n rheoli gwelyau haul i ddarparu rhagor o gyngor a diogelwch ar gyfer oedolion,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart.