Afanc
Mae undeb ffermwyr wedi beirniadu cynllun i ryddhau dau afanc i gefn gwlad Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Tir Gwyllt Cymru yn y broses o adeiladu cartref caeedig ar gyfer yr afancod ger Machynlleth.

Y gobaith yw rhyddhau’r afancod yn ystod yr haf, ond dyw Undeb Amaethwyr Cymru ddim yn hapus â’r  cynllun.

“Mae ffermwyr yn pryderu’n fawr ynglŷn â’r cynllun  yma i gyflwyno creadur sydd ddim yn frodorol i gefn gwlad Cymru,” meddai cadeirydd seneddol yr undeb, Richard Vaughan.

“Mae ail-gyflwyno anifail sydd heb fod yng Nghymru er y 12fed ganrif yn ymddangos yn syniad gwallgo’ i ni.

“Mae yna adroddiadau o’r Alban fod afancod wedi dianc o gasgliadau preifat ac wedi llwyddo i osgoi cael eu dal.

“Maen nhw wedi teithio’n bell ac achosi difrod sylweddol i goed. Ac os ydi’r anifeiliaid yn dianc maen nhw wedi eu hamddiffyn gan gyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r problemau sy’n ymwneud â’r wiwer a’r gwningen lwyd, dau greadur arall sydd ddim yn frodorol, yn dangos y gwrthdaro y gallai hyn ei achosi yn y dyfodol.

“Ar ôl yr holl drafferthion â TB mewn bywyd gwyllt, mae ffermwyr yn amharod i gefnogi unrhyw gynllun all gyflwyno rhywogaeth newydd trafferthus i Gymru.”