Mynwent
Mae un ym mhob deg o yrwyr hers Cymru wedi cael eu gwatwar, yn ôl ymchwil newydd gan Co-operative Funeralcare.

Maen nhw’n gorfod dioddef ystumiau anghwrtais, wedi eu cam-drin ar lafar, neu wedi dioddef ymddygiad bygythiol gan yrwyr eraill ar y ffyrdd, yn ôl arolwg.

Roedd gyrwyr hefyd wedi dioddef gyda cheir eraill yn tynnu i mewn yn sydyn o’u blaenau nhw a phobol yn chwarae cerddoriaeth yn uchel gerllaw.

Dywedodd Co-operative Funeralcare fod canlyniadau’r arolwg yn dangos dirywiad mewn parch at orymdeithiau angladd a gyrwyr hers.

‘Dim parch’

Dywedodd Robin Roberts o R.Roberts & Son Funeral Directors ym Mae Colwyn wrth Golwg360 nad yw “pobol yn dangos parch fel yr oedden nhw”.

“Felly mae’r byd wedi mynd. Mae’n braf gweld rhywun yn stopio ac yn tynnu het – dydi hynny ddim yn digwydd yn aml,”  meddai.

Ychwanegodd mai’r broblem bennaf oedd “pobol yn tynnu i mewn rhwng yr hers a’r ceir” neu yn “gwrthod gadael i’r hers ddod allan”.

“Does fawr o ddim byd fedrwn ni ei wneud. Mae’n bwysig ein bod ni’n cynnal parch ac urddas y swydd,” meddai Robin Roberts.

Dywedodd fod ei dad wedi dechrau’r busnes yn yr 1930au ac mai ef yw’r drydedd genhedlaeth i wneud y gwaith..

‘Ddim yn broblem enfawr’

Dim ond “o bryd i’w gilydd” y mae gyrwyr cwmni Harry Daniel, perchennog Daniell W H & Son yn Aberystwyth yn cael problemau, meddai.

Doedd gyrwyr eraill ddim wedi bod yn rhegi atyn nhw na gwneud ystumiau llaw, meddai wrth Golwg360.

“Dyw e ddim yn broblem enfawr yn ardal Aberystwyth – yn gyffredinol ‘dw i’n meddwl ein bod ni’n cael ein trin yn eithaf da. Mae pobol yma yn ein parchu ni.”

Dywedodd Gareth Coles, perchennog Rumney Funeral Directors yng Nghaerdydd, fod pobol yn gallu ymddwyn yn ymosodol tuag atyn nhw.

“Rydyn ni wedi cael gyrwyr yn canu corn wrth i alarwyr fynd i mewn i geir o’u cartrefi. Rydyn ni’n gorfod mynd allan i ofyn iddyn nhw aros a dangos ychydig o barch,” meddai. “Mae hi wedi bod yr un fath erioed.”

Roedd yn anghytuno hefyd fod y genhedlaeth hŷn yn dangos mwy o barch.

“O bryd i’w gilydd fe welwn ni grwpiau o hogiau ifanc ar feiciau BMX. Pan fyddwn ni’n pasio, weithiau maen nhw’n tynnu eu capiau pig,” meddai.

Dywedodd Dean Thomas o Caerphily Funeral Services mai cynnydd yn nifer y ceir ar y ffyrdd oedd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd mewn problemau.

Roedd hefyd yn cytuno mai “camsyniad” oedd fod pobol ifanc yn fwy amharchus. “Mae’r ifanc yn tynnu eu capiau,” meddai.