Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi mynnu na fydd myfyrwyr yn troi cefn ar ei phlaid yn Etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai.

Mae’r blaid dan y lach ar draws Prydain ar ôl addo peidio codi ffioedd dysgu cyn yr Etholiad Cyffredinol, cyn cefnu ar yr addewid hwnnw diwedd y llynedd.

Ond dywedodd Kirsty Williams y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn talu ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru pe baen nhw’n cipio grym yn y Cynulliad.

Roedd  y blaid yn lansio eu maniffesto yng Ngolwg Gwent, Casnewydd, heddiw gan ganolbwyntio’n bennaf ar addysg, hyfforddiant a’r economi.

“Mae ffioedd dysgu yn fater datganoledig ac fe bleidleisiodd ASau Cymreig y Democratiaid Rhyddfrydol yn erbyn cynyddu’r ffioedd yn San Steffan,” meddai.

“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn lleddfu effaith unrhyw gynnydd mewn ffioedd dysgu drwy dalu ffioedd myfyrwyr Cymru dros £3,000.

“Ac os ydi plant sydd yn y system gofal yn mynd i addysg bellach fe wnawn ni dalu eu ffioedd a’u costau byw ar eu rhan nhw.”

Busnes

Addewid mawr y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw oedd rhewi trethu busnes am flwyddyn.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol y bydden nhw’n canolbwyntio yn “hollol” ar adfer yr economi os oedden nhw mewn llywodraeth ar ôl 5 Mai.

Ychwanegodd Kirsty Williams fod clymblaid Llafur-Plaid wedi gadael Cymru i lawr.

“Yr etholiad yma ydi’r pwysicaf yng Nghymru er datganoli. Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi ein gadael ni ag economi gwan, ysgolion sydd heb eu hariannu’n iawn, a Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n costio mwy ond sy’n gwneud llai.

“Fe fyddwn ni’n rhewi trethu busnes am flwyddyn wrth gynnal ymchwiliad i sut i sefydlu system trethi busnes tecach i Gymru, sy’n annog rhagor o fusnesau i ddod yma.”

Ymateb

Dywedodd Elin Jones, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, nad oedd y Democratiaid Rhyddfrydol bellach yn “blaid wleidyddol; perthnasol yng Nghymru”.

“Mae eu perfformiad nhw mewn llywodraeth yn San Steffan wedi dangos nad oes modd ymddiried ynddyn nhw i wneud beth sydd orau dros Gymru,” meddai.