Mari Rees
Mae un o’r ymgeiswyr Etholiadau’r Cynulliad wedi marw o ganser.
Roedd Mari Rees yn bwriadu sefyll dros y Blaid Lafur ar restr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n debyg ei bod hi wedi marw ddydd Sul.
Roedd hi’n gyn newyddiadurwr â’r Western Mail a’r BBC, ac wedi sefyll ym Mhreseli Penfro yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.
Roedd hi’n un o chwe ymgeisydd o leiafrifoedd ethnig ar rest ymgeiswyr etholiad 2011.
“Mae hyn yn newyddion trist iawn. Roedd egni a brwdfrydedd Mari yn gwneud argraff ar bawb oedd yn ei chyfarfod hi,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.
“Fe fyddwn ni’n gweld ei heisiau hi, a bydd pawb yn Llafur Cymru yn ei chofio.”