Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirtsty Williams, yn lansio ymgyrch ei phlaid ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad, heddiw.

Addawodd y byddai’r Dems Rhydd yn rhoi hwb i economi Cymru, yn creu swyddi ac yn mynd i’r afael â diffyg sgiliau ymhlith gweithwyr.

Bydd y blaid yn datgelu eu polisïau nhw ar gyfer yr etholiad yn swyddogol yn ystod ymweliad â Choleg Gwent, yng Nghasnewydd.

Ers mynd yn rhan o’r glymblaid yn San Steffan mae poblogrwydd y blaid wedi syrthio yng Nghymru, gan ddenu llai na 10% o’r gefnogaeth mewn rhai polau piniwn diweddar.

‘Yr ethoiad pwysicaf’

Dywedodd Kirtsy Williams, sy’n 40 oed, mai’r etholiad mewn mis oedd y pwysicaf yn hanes Cymru ers datganoli.

“Mae hwn yn etholiad am ba fath o lywodraeth y mae Cymru ei angen,” meddai.

“Mae Llafur a Phlaid wedi ein gadael ni ag economi wan, ysgolion sydd wedi eu tanariannu, a Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n costio mwy ond yn gwneud llai.

“Dyw hi ddim yn syndod fod Llafur a Phlaid yn amharod i drafod eu cyfnod mewn llywodraeth. Maen nhw wedi arbenigo ar wastraff ac anallu.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu fod Cymru yn haeddu gwell. Fe fyddwn ni’n defnyddio’r etholiad yma i hybu polisïau cadarnhaol fydd yn creu swyddi a gwella’r economi.”

Rhai o’r polisiau

Dywedodd y byddai cwmnïau yn cael £2,000 ar gyfer hyfforddi staff os oedden nhw’n cyflogi pobol ifanc ddi-waith.

Ychwanegodd y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn addo buddsoddi rhagor o arian mewn ysgolion er mwyn talu am “ddosbarthiadau llai”.

Roedden nhw hefyd yn addo torri amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, ac ailwampio llywodraeth leol.