Carwyn Jones
Mae arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi cyhuddo’r Prif Weinidog, David Cameron, o “ffiban” am doriadau Llywodraeth Cymru i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ddydd Gwener honnodd David Cameron Neuadd y Sir Abertawe fod plaid Carwyn Jones yn mynd i dynnu £1 biliwn allan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

“Mae’n ffiban wrth gwrs,” meddai Prif Weinidog Cymru. “Mae e wedi tynnu’r ffigyrau yma mas o’i het.

“Bydd £5.89 biliwn yn cael ei wario yn y flwyddyn ariannol nesaf, a’r flwyddyn wedyn fe fydd £5.9 biliwn yn cael ei wario. Dyw hynny ddim yn doriad o un biliwn.”

‘Amddiffyn cyllid iechyd’

“Rydyn ni wedi amddiffyn y gyllideb iechyd orau allen ni o ystyried y toriadau Torïaidd sy’n cael eu gorfodi arnom ni.

“Mae hi braidd yn hy iddyn nhw ddweud ‘Dewch o hyd i arian sydd ddim yn bodoli’. O le mae’r biliwn o bunnoedd ychwanegol yma y mae’r Ceidwadwyr wedi addo ei wario ar iechyd yn mynd i ddod?

“Rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydi’r anrhefn sy’n digwydd dros y ffin ddim yn digwydd yng Nghymru, ac amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”