Carwyn Jones
Mae’r Blaid Lafur wedi datgelu’r wyth sedd ymylol y maen nhw’n gobeithio eu cipio er mwyn sicrhau mwyafrif yn y Cynulliad yn dilyn yr etholiadau fis nesaf.
Dywedodd arweinydd Llafur yng Nghymru, Carwyn Jones, bod nifer aelodau’r Blaid Lafur wedi cynyddu 10% yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf.
Roedd hefyd yn hapus iawn â’r polau piniwn oedd yn awgrymu bod y Blaid Lafur ymhell ar y blaen i Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond mynnodd AC Pen-y-bont ar Ogwr na fyddai ei blaid yn gorffwys ar eu rhwyfau ac y bydden nhw’n amddiffyn Cymru rhag toriadau Llywodraeth San Steffan.
‘Nes na’r polau’
Dywedodd y byddai’r etholiad yn agosach nag oedd y polau piniwn yn ei awgrymu ac y byddai angen ymgyrchu’n galed er mwyn cyrraedd targed ei blaid, sef 31 o’r 60 sedd.
“Rydyn ni’n gwybod fod y polau piniwn diweddar o’n plaid ni ond yr oll ydyn nhw ydi seiliau i adeiladu arno,” meddai. “Dydyn ni ddim yn hunanfodlon.
“Does yr un bleidlais wedi ei rhoi eto – ac fe fydd y bleidlais yn agos. Fe fydd yn ras agos mewn sawl etholaeth bwysig iawn.”
Wrth siarad yng nghynhadledd etholiadol cyntaf y blaid yng Nghaerdydd heddiw dywedodd eu bod nhw’n targedu ennill wyth sedd newydd yn yr etholiad.
Y seddi
Maen nhw’n targedu pedair o seddi’r Ceidwadwyr, dwy o seddi Plaid Cymru ac un o seddi’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Preseli Sir Benfro (Ceidwadwyr)
Gorllewin Clwyd (Ceidwadwyr)
Llanelli (Plaid Cymru)
Blaenau Gwent (Annibynnol)
Gorllewin Caerfyrddin (Ceidwadwyr)
Canol Caerdydd (Democratiaid Rhyddfrydol)
Gogledd Caerdydd (Ceidwadwyr)
Aberconwy (Plaid Cymru)