Mohammad Asghar
Mae mudiad sy’n ymgyrchu am gydraddoldeb drwy Brydain wedi dweud fod angen rhagor o Aelodau Cynulliad o leiafrifoedd ethnig ym Mae Caerdydd.

Dim ond un o’r aelodau presennol sydd ddim yn wyn – Mohammad Asghar, gafodd ei ethol yn AC dros Blaid Cymru yn 2007, cyn gadael er mwyn ymuno â’r Ceidwadwyr.

Mae tua 2.1% o boblogaeth Cymru yn dod o leiafrifoedd ethnig, a dywedodd Operation Black Vote fod angen “agor drysau coridorau grym” iddyn nhw.

Dywedodd Ashok Viswanathan, is-gyfarwyddwr Operation Black Vote, bod angen gwneud rhagor i sicrhau fod pobol o leiafrifoedd ethnig yn chwarae rhan yn y broses ddemocrataidd.

Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn cydweithio â Operation Black Vote er mwyn mentora ymgeiswyr sydd o gefndiroedd lleiafrifol.

Dim ond chwe aelod o leiafrifoedd ethnig sydd ar rest ymgeiswyr etholiad 2011 yng Nghymru, sef:

• Mohammad Asghar dros y Ceidwadwyr ar restr De Ddwyrain Cymru

• Natasha Ashgar dros y Ceidwadwyr yn Nhorfaen

• Mari Rees dros y Blaid Lafur ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru

• Victor Babu dros y Democratiaid Rhyddfrydol ar restr Gogledd Cymru

• Altaf Hussain dros y Ceidwadwyr ar restr De Orllewin Cymru

• Liz Musa dros Blaid Cymru ar yn Ne Caerdydd a Phenarth

Dywedodd Operation Black Vote fod y diffyg aelodau o leiafrifoedd ethnig hefyd yn broblem yn Senedd yr Alban.

Er bod 4% o’r boblogaeth yn dod o leiafrif ethnig dim ond un un Aelod o Senedd yr Alban o leiafrif ethnig sydd wedi ei ethol erioed, sef Bashir Ahmed, ac fe fu farw dwy flynedd yn ddiweddarach yn 2009.