Logo'r Ysgol Gymraeg
Mae un o’r brwydrau mwya’ chwerw tros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ar fin dod i ben.

Yr wythnos nesa’, fe fydd Cyngor y Ddinas yn ystyried barn y bobol ar gynlluniau i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Nhreganna.

Mae’r Cyngor hefyd yn cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i’r holl arian sydd ei angen i godi’r ysgol a symud plant oddi yno o’r ysgol bresennol ac uned orlifo Tan yr Eos.

Fe fu brwydro caled tros gynnig cynharach i gau ysgol gynradd Saesneg yn yr ardal a rhoi’r adeilad i’r ysgol gynradd Gymraeg.

Ddydd Iau, fe fydd cabinet y Cyngor yn derbyn adroddiad ar broses ymgynghori ynglŷn â’r cynllun newydd, sydd hefyd yn diogelu pob un o’r ysgolion cyfrwng Saesneg.

Y disgwyl yw y bydd y cynlluniau’n cael eu cymeradwyo ac y bydd yr ysgol newydd wedi’i chodi erbyn mis Medi 2013.

Roedd Plaid Cymru a Llafur wedi gwrthdaro tros y cynlluniau gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwrthod y cynigion cynharach.