Brynle Williams
Mae’r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi cadarnhau bod y gwleidydd Brynle Williams wedi marw yn 62 oed.
Roedd wedi bod yn wael ers amser ac mae’n ymddangos ei fod wedi marw ar y diwrnod y daeth ei dymor yn Aelod Cynulliad i ben.
Roedd y ffarmwr o Gilcain, Sir y Fflint, wedi dod i’r amlwg i ddechrau yn ystod protestiadau yn erbyn pris tanwydd yn 2000. Ef oedd un o’r arweinwyr.
Roedd yn Aelod Cynulliad rhanbarthol tros Ogledd Cymru ac yn llefarydd ar amaeth a materion gwledig. Roedd yn gyfrannwr cyson ar y cyfryngau Cymraeg.
Roedd wedi cael ei ethol i ddechrau yn 2003 a’i ail-ethol yn 2007 ond roedd eisoes wedi dweud na fyddai’n sefyll eleni, oherwydd ei iechyd.
Fe ddywedodd y Blaid Geidwadol y byddan nhw’n cyhoeddi datganiad ffurfiol yn fuan.
Teyrnged
Dywedodd Guto Bebb o’r Ceidwadwyr Cymreig wrth Golwg360 heddiw fod Brynle Williams yn “lais Cymreig o blaid amaeth”.
“Dydw i ddim yn meddwl bod ganddo elyn gwleidyddol,” meddai.
“Roedd ganddo amser i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd o hyd ac roedd yn ddyn dymunol iawn. Roedd yn gefnogol ac yn help mawr yn mart Llanrwst.
“Lle bynnag oedden ni’n mynd – roedd yn gorfod bwyta. Roedd o’n bwyta cig â brwdfrydedd mawr.
“Doedd yn ddim diwrnod o ymgyrchu wedi mynd heibio heb ei fod yn bwyta pryd eithaf sylweddol – brecwast llawn yn aml.
“Roedd yn ystyried ei hun yn ffarmwr yn gyntaf, ac yna gwleidydd – roedd hynny’n un o’i gryfderau.
“Nid ‘gwleidydd proffesiynol’ oedd o – wedi mynd i goleg, cael swydd fel ymchwilydd cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth. Roedd yn siarad o brofiad a dealltwriaeth.”
Ymateb Plaid Cymru
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, fod “marwolaeth Brynle yn newyddion trist i bawb ar draws y pleidiau gwleidyddol”.
“Byddaf yn cofio ei frwdfrydedd heintus fel Aelod Cynulliad ac fel dyn cwbl anrhydeddus a pharchus,” meddai.
“Roedd yn Arweinydd cymunedol naturiol ac fe roddodd gynrychiolaeth gref i’r gymuned honno yn y Cynulliad Cenedlaethol gan wneud cyfraniad mawr i sicrhau fod pobl y gogledd ddwyrain yn teimlo eu bod yn rhan o ddemocratiaeth ifanc Cymru.
“Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a chyfeillion Brynle.”
Dywedodd llefarydd y Blaid ar faterion gwledig, Elin Jones, fod Brynle Williams yn “yn ŵr bonheddig ac yn lladmerydd cryf ar ran cymunedau gwledig”.
“Fel llefarydd ei blaid ar faterion gwledig, roedd o wastad yn gadarnhaol ac yn gyfeillgar yn ei gyfraniadau i drafodaethau,” meddai.
“Gwnaeth bopeth o fewn ei allu i warchod dyfodol cymunedau gwledig gan roi hynny uwchlaw mantais bleidiol. Mae gwleidyddiaeth Cymru wedi colli un o ychydig garedigion y Gymru wledig.
“Gweithiais gyda fo fel aelod o’r wrthblaid ac fel gweinidog ac roeddwn wastad yn parchu ei farn a’i frwdfrydedd ar bob mater.
“Rwy’n siŵr fod pobl o bob plaid yn ystyried eu hunain yn ffodus o fod wedi cael gweithio gyda Brynle. Byddaf yn ei golli’n arw”.
Ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod Brynle Williams yn “gymeriad cynnes a diffuant”.
“Roedd yn dadlau yn gryf o blaid cefn gwlad Cymru a’r diwydiant ffermio ac yn hynod o wybodus am geffylau.
“Fydda’i byth yn anghofio un noson San Ffolant pan oeddwn i a fy ngŵr yng Nghaerdydd ac yn mwynhau pryd o fwyd rhamantus.
“Fe welodd Brynle, oedd gyda’i wraig Mary, ni a phenderfynu ymuno gyda ni.
“Treuliodd y ddau ŵr y noson gyfan yn trafod materion ffermio. Nid dyna’r diwrnod San Ffolant oeddwn i a Mary wedi bod yn gobeithio amdano!
“Fe fydda i’n gweld ei eisiau’n fawr ac rydyn ni’n anfon ein cariad at Mary a gweddill y teulu.”