Tanc olew cyffredin
Mae math amserol o ddwyn ar gynnydd yng ngorllewin Cymru wrth i’r heddlu rybuddio pobol yn Sir Benfro i warchod eu cyflenwadau olew a disel.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio pobol i ddiogelu tanciau tanwydd, gan gynnwys rhai gwres canolog.

Fe fu naw achos o ddwyn tanwydd gwresogi a disel yn Sir Benfro yn ystod y ddau fis diwetha’ wrth i bris olew godi’n sylweddol.

Roedd y lladradau werth mwy na £3,000, meddai swyddogion, sy’n gofyn am ragor o wybodaeth ac yn rhybuddio pobol i warchod eu tanciau.

Mesurau diogelwch

Fe allai hynny gynnwys rhoi mur o ddellt pren o amgylch tanciau plastig gyda drws sy’n cloi ar gyfer derbyn cyflenwadau. Mae’r heddlu hefyd yn annog rhoi cerrig o amgylch tanciau er mwyn gallu clywed os oes rhywun yn symud o’u cwmpas.

Yn ôl y Sarjiant Martin Vaughan o Swyddfa Heddlu Aberdaugleddau maen nhw’n disgwyl y bydd dwyn tanwydd yn cynyddu.