Prifysgol Y Drindod Dewi Sant sy'n colli fwya'
Fe fydd Prifysgolion Cymru’n cael £25 miliwn yn llai ar gyfer eu gwaith addysgu yn y flwyddyn nesa’.

Yn gyffredinol, mae’n golygu toriad o fwy na 6% gyda’r prifysgolion sy’n canolbwyntio ar ddysgu yn hytrach nag ymchwil yn gwneud waetha’.

Yn ôl cyhoeddiad gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch, fe fydd arian ymchwil yn cael ei warchod, yr arian i ddysgu trwy’r Gymraeg yn dyblu a rhagor o gefnogaeth i brifysgolion sy’n denu a chadw myfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig.

Mae tablau’r prifysgolion yn dangos bod yr arian ar gyfer addysgu’n mynd i lawr o £361.3 miliwn eleni i £336.7 miliwn yn y flwyddyn nesa’.

Eisoes, roedd cyhoeddiad wedi bod y bydd uchafswm myfyrwyr yn cael ei osod hefyd ac fe allai hynny effeithio ar incwm hefyd.

Y manylion

Y brifysgol fwya’ newydd o’r cyfan – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbed a Chaerfyrddin sy’n colli fwya’, gyda gostyngiad o 8.7% tra bod pedair – Bangor, Athrofa Caerdydd, Glyndŵr a Morgannwg – yn colli mwy na 7%.

Ond, gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar fin dechrau’i waith, mae’r arian at addysgu trwy’r Gymraeg yn codi o £2 filiwn i £4 miliwn ac mae cynnydd bach o ychydig tros £200,000 at ymchwil.

Y cynnydd yn hynny sy’n gyfrifol am naid o fwy nag 16% yn arian y Ganolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd yn Aberystwyth ac fe fydd Prifysgol Fetropolitan Abertawe’r Brifysgol Agored hefyd yn cael cynnydd bach.

‘Teg’

Yn ôl Cadeirydd y Cyngor Cyllido, yr Athro Philip Gummet, roedden nhw wedi ceisio rhannu’r arian yn deg a llyfn ac wedi rhoi blaenoriaeth i wella “cyfiawnder cymdeithasol a’r economi”.