Llun o wefan RSPCA
Mae’r RSPCA yn apelio am wybodaeth ar ôl dod o hyd i geffyl newynog wedi ei gadael ar gytir ger Pen y Bont at Ogwr.

Daethpwyd o hyd i’r gaseg 10 oed ar Gytir Coity. Roedd y ceffyl yn gwisgo coler ei phen ond y gred yw bod ei pherchennog wedi ei gadael i oroesi ar ei phen ei hun.

Cafodd y ceffyl ei harchwilio gan filfeddyg, a ddywedodd ei bod yn fregus ac angen bwyd a diod ar frys.

“Rydyn ni wedi holi sawl un yn lleol, ond does neb yn gwybod unrhyw beth am y ceffyl yma,” meddai ymchwilydd yr RSPCA, Nic de Celis.

“Mae ei charnau mewn cyflwr da felly rydyn ni’n cymryd fod rhywun wedi edrych ar ei hol hi’n dda ar un cyfnod.

“Rydw i’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda ni cyn gynted a bo modd fel ein bod ni’n cael gwybod pwy yw ei pherchennog.”

Mae’r RSPCA yn gofalu am y ceffyl ar hyn o bryd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r RSPCA ar 0300 1234999.