Alun Ffred Jones
Mae’n gwbl angenrheidiol fod Plaid Cymru’n rhan o lywodraeth nesaf y Cynulliad, yn ôl y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones.
Wrth siarad yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, dywedodd Aelod Cynulliad Arfon fod dylanwad Plaid Cymru wedi bod yn gwbl allweddol er mwyn sicrhau agenda Cymreig ym maes treftadaeth.
A rhybuddiodd y byddai’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni dros yr iaith a’r diwylliant Cymraeg gan y llywodraeth bresennol o dan fygythiad petai Llafur yn ennill mwyafrif llwyr yn yr etholiad ym mis Mai.
“Mae gan Blaid Cymru stori gadarnhaol i’w hadrodd yn y maes treftadaeth,” meddai.
“Mewn un tymor o lywodraeth yn unig, rydym wedi cyflwyno Mesur Iaith newydd gan sicrhau statws swyddogol ynghyd â chomisiynydd cryf. Mae’r uned digwyddiadau mawr wedi mynd o nerth i nerth gyda phrofiadau’r Cwpan Ryder a Gêm Brawf y lludw yn brawf o’r hyn y gallwn ei gyflawni.
“Mae gennym sîn ddiwylliannol fywiog sy’n amrywiol o’r Eisteddfod Genedlaethol i Wakestock, o Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen i Wŷl y Dyn Gwyrdd. Mae’r llwyddiannau hyn wedi eu cefnogi gan Blaid Cymru a’i gweledigaeth.
“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod y gwaith yma, y llwyddiant yma a’r weledigaeth hon yn parhau. Heb Blaid Cymru mewn Llywodraeth, bydd ein hagenda Cymreig ar goll.”