Helen Mary Jones
Mae’r bleidlais Ie yn y refferendwm yn dangos bod ar bobl Cymru eisiau llywodraeth sy’n gallu gwireddu eu huchelgais, yn ôl Helen Mary Jones o Blaid Cymru.

Mewn araith yng nghynhadledd wanwyn y Blaid yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, meddai Aelod Cynulliad Llanelli:

 “Mae pobl yng Nghymru wedi eu gadael i lawr gan Lafur. Dyma’r blaid ddaeth i rym yn 1997 ac a fu’n hapus am y ffaith fod y bwlch rhwng cyfoethog a thlawd yn fwy nac erioed dan eu gofal nhw.

 “Ymhell o sefyll lan dros Gymru, unig bryder Llafur erioed fu edrych ar ôl eu hunain.

“Mae’n ffodus fod gan bobl yng Nghymru dewis arall clir i bleidiau San Steffan.

“Mae Plaid Cymru mewn llywodraeth wedi dangos ein bod ni’n blaid sy’n gwneud penderfyniadau cadarnhaol; gan gynnwys delifro ar dai fforddiadwy, trafnidiaeth, agwedd newydd ar yr economi, deddf Iaith newydd, sefyll lan dros gymunedau gwledig, pwysleisio’r ffordd anheg rydym yn cael ein hariannu, refferendwm llwyddiannus a llawer mwy hefyd.

“Rydym yn mynd i mewn i’r etholiad hwn gyda chynhadledd sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod uchelgeisiau pobl Cymru i greu cenedl cryfach a gwell yn cael eu gwireddu.

  “Ar 3 Mawrth, dywedodd pobl Cymru Ie sylweddol dros Gymru. Gyda’r hyder ac uchelgais hwnnw yn ein sbarduno ni ymlaen bydd pleidlais dros y Blaid ar 5 Mai yn bleidlais Ie dros Gymru well.”