Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Fe ddylai Cymru gael ei system gyfiawnder troseddol ei hun fel yr Alban, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog heddiw.

Wrth siarad yng nghynhadledd Plaid Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd Ieuan Wyn Jones fod angen i Gymru gymryd rhagor o gyfrifoldeb dros ei materion ei hun yn dilyn pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ddechrau’r mis.

“Nawr mae’r gwaith yn dechrau go iawn wrth i ni gael yr offer sydd ei angen arnom ni i symud y wlad yma ymlaen,” meddai.

Dywedodd y byddai pedwerydd tymor y Cynulliad yn un anoddach oherwydd y toriadau gwario oedd yn wynebu’r wlad.

“Fe ddylai Cymru dderbyn nawdd teg gan Lywodraeth San Steffan, yn ogystal â rhagor o hyblygrwydd er mwyn gallu cryfhau ei economi,” meddai.

“Fe ddylai hefyd gael rhagor o reolaeth dros faterion gan gynnwys trafnidiaeth, egni, yr heddlu, cyfiawnder troseddol a darlledu.

“Dros y blynyddoedd nesaf rydyn ni eisiau cymryd mwy o gyfrifoldeb dros lunio ein dyfodol ein hunain a sicrhau tegwch i’n gwlad.”

Ymateb y Ceidwadwyr

Dywedodd llefarydd economaidd y Ceidwadwyr, Darren Millar, fod Plaid Cymru wedi methu cyfle i wella Cymru yn ystod eu cyfnod mewn clymblaid â’r Blaid Lafur.

“Mae Ieuan Wyn Jones wedi bod yn rheoli economi Cymru, sydd wedi bod yn gwneud yn wael, ers pedair blynedd ac arno ef mae’r cyfrifoldeb,” meddai Darren Millar.

“Cymru yw’r rhan dlotaf o’r Deyrnas Unedig, mae’r llywodraeth wedi cefnu ar gynllun ar gyfer y diwydiant cynhyrchu, a dyw ei Rhaglen Adfywiad Economaidd ddim wedi rhoi ceiniog i gwmnïau Cymru ers iddo gael ei greu’r haf diwethaf.”

Ymateb y Blaid Lafur

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur eu bod nhw’n cefnogi rhai o sylwadau Ieuan Wyn Jones, ond fod ei araith yn siomedig.

“Mae’r Blaid Lafur yn cefnogi safbwynt Ieuan Wyn Jones ynglŷn â’r toriadau annheg sy’n cael eu gorfodi ar Gymru gan Lywodraeth San Steffan,” meddai.

“Ond doedd yna ddim byd newydd yn yr araith yma.

“Mae’n rhaid bod aelodau Plaid Cymru yn anhapus bod arweinwyr y blaid eisoes wedi rhoi’r ffidil yn y to a derbyn nad ydyn nhw’n mynd i ennill Etholiadau’r Cynulliad.”