Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi ymosod ar bleidiau eraill y wlad gan ddweud nad ydyn nhw’n poeni am Gymru.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog mai Cymru oedd unig flaenoriaeth ei blaid – yn wahanol i Lafur, y Ceidwadwyr, a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mewn araith Cymraeg a Saesneg yng nghynhadledd ei blaid yng Nghaerdydd, amlinellodd Ieuan Wyn Jones gynlluniau ei blaid ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad.
Dywedodd y byddai’r cenedlaetholwyr yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth a band-eang Cymru, yn ogystal ag addysg a’r economi, pe baen nhw’n cipio grym.
“Ein meistri ni yw pobol Cymru. Mae meistri’r pleidiau eraill yn Llundain,” meddai.
“Rydyn ni’n deyrngar i Gymru, mae’r pleidiau eraill yn deyrngar i’r pencadlys yn Llundain.
“Dyw hyn ddim yn mynd i fod yn hawdd – mae’r hinsawdd ariannol ac economaidd yn anodd ac roedd y toriadau i gyllideb Cymru yn rhy gynnar a’n rhy gyflym.
“Ond ni fydd y blaid yma yn defnyddio’r toriadau fel esgus ar gyfer peidio â gwneud ein gorau dros bobol Cymru.
“Fe wnawn ni bopeth yn ein gallu ni i fod yn darian i Gymru, gan amddiffyn swyddi, cymunedau, gwasanaethau, a S4C gan fwyell y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
“Ond tra bod gweinidogion Plaid Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru, wnawn ni ddim caniatáu i’r toriadau fod yn esgus ar gyfer safonau isel a pherfformiad gwael.”