Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi dweud y bydd creu swyddi ac addysg yn cael blaenoriaeth ym maniffesto’r blaid ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad eleni.

Fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn cyfarch ei blaid ar ddechrau eu cynhadledd deuddydd o hyd yng Nghaerdydd heddiw.

Dywedodd y bydd Plaid Cymru “yn newid y diwylliant o esgusodion sydd wedi bod yn rhan annatod o’r rhan fwyaf o’r 12 mlynedd y mae Llafur wedi bod mewn grym”.

“Mewn llywodraeth rydyn ni wedi sylweddoli bod angen i’n heconomi ni wella,” meddai.

“Mae ganddon ni gynlluniau clir ac arloesol er mwyn hybu’r economi, drwy gefnogi creu cwmni fydd yn buddsoddi mewn prosiectau hanfodol, a Chronfa Twf Cymreig fydd yn buddsoddi mewn busnesau o Gymru.

“Ein nod fydd creu swyddi o safon uchel, yn seiliedig ar y Rhaglen Adfywiad Economaidd yr ydym ni wedi ei gyflwyno yn ystod ein hamser mewn llywodraeth.

“Mae hefyd angen i ni wella safonau addysg. Mae gormod o’n pobol ifanc yn gadael ysgolion heb y gallu i ddarllen neu ysgrifennu.

“Fe fyddwn ni’n anelu at haneru’r raddfa anllythrennedd erbyn diwedd tymor nesaf y Cynulliad.”

‘Cysylltu Cymru’

Dywedodd y byddai’r Blaid yn ymroi i gyflwyno rhwydwaith bang eang cyflym ledled Cymru, gwella’r signal ffonau symudol a buddsoddi mewn ffyrdd a rheilffyrdd.

Ychwanegodd y byddai’r Blaid yn parhau i wrthwynebu toriadau sy’n cael eu gorfodi ar Gymru gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ddoe dywedodd y byddai Plaid Cymru yn annhebygol o fynd i’r glymblaid â’r naill blaid neu’r llall ar ôl yr etholiad oherwydd y toriadau gan Lywodraeth San Steffan.

“Dyma’r amser i drawsnewid Cymru i mewn i’r wlad ydan ni ei heisiau,” meddai. “Rydyn ni’n gwybod nad oes unrhyw un yn disgwyl dim llai gan Blaid Cymru.

“Rydyn ni wedi cyrraedd croesffordd. Mae’r etholiad yma yn cynnig dewis i ni.

“A ddylen ni ganiatáu i’r pleidiau eraill adael i’n gwasanaethau cyhoeddus ddirywio?

“Neu a ddylen ni wynebu’r her a gwireddu disgwyliadau’r bobol?”

Mae cynhadledd Plaid Cymru yn cael ei gynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, heddiw ac yfory.