Mae’r Ymddiriedolaeth Moch Daear wedi dweud y byddwn nhw’n cymryd cyngor cyfreithiol wrth i Lywodraeth y Cynulliad fwrw ymlaen â chynllun i ddifa’r anifeiliaid.

Pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad bron yn unfrydol o blaid parhau â’r cynllun i ddifa moch daear yn ne-orllewin Cymru ddoe.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, fod difa moch daear mewn rhannau o Sir Benfro, Caerfyrddin a Ceredigion yn gam cyntaf angenrheidiol er mwyn ceisio cael gwared ar TB ychol sy’n bla mewn sawl rhan o Gymru.

Mae’r clefyd yn costio degau o filiynau o bunnoedd i Gymru mewn iawndal i ffermwyr am wartheg sy’n cael eu dinistrio

Roedd yr Aelodau Cynulliad, Peter Black, Lorraine Barrett, Irene James a Jenny Randerson wedi cynnig diddymu’r mesur, ond cafodd eu cynnig ei wrthod o 42 pleidlais i 8.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Moch Daear eu bod nhw’n siomedig iawn â’r cynllun i ddifa’r anifeiliaid a bellach yn ystyried sut i ymateb.

Fe lwyddodd yr Ymddiriedolaeth i rwystro ymdrech gynharach ar ôl ennill achos llys.

“Mae’r Ymddiriedolaeth yn cymryd cyngor cyfreithiol am beth sydd wedi ei benderfynu a’r modd y daethpwyd i’r penderfyniad,” meddai llefarydd.

“Rydyn ni o’r farn bod y cynllun costus ac ofer yma yn gwbl ddiangen.”

Roedd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, wedi gobeithio gwrthod y cynnig