Mae ymgeisydd y Blaid Lafur yn Llanelli, Keith Davies, wedi galw am achub rhaglen S4C, Wedi 3, rhag doriadau ariannol y sianel.

Roedd rheolwyr S4C wedi crybwyll mewn cyfarfod â chwmniau teledu annibynol ddechrau’r mis y gallai Wedi 3 gael ei ddiddymu yn y dyfodol.

Mae’r rhaglen sy’n chwaer i’r gyfres Wedi 7 yn cael ei chynhyrchu gan Tinopolis yn Llanelli.

Dywedodd Keith Davies ei fod yn bwysig nad oedd “Wedi 3” yn troi’n “wedi mynd”.

“Ie, mae’n cael ei wneud yn Llanelli; ie, mae fy ngwraig yn gweithio ar y tîm. Ond nid dyna’r rheswm pam ddylwn i gefnogi’r rhaglen,” meddai.

“Mae teledu prynhawn erbyn hyn yn rhan o’n bywydau bob dydd. Mae’r gwylwyr yn ei ddymuno ac mae o fudd i’r iaith.

“Gwyddem ers tipyn bod y Glymblaid tan arweiniad y Ceidwadwyr yn San Steffan wedi tocio’r arian sydd ar gael i ddarlledu.

“Yr hyn sy’n dod yn fwyfwy eglur yw lle a phwy yn union sy’n dioddef y toriadau.”

Mae grŵp eisoes wedi’i sefydlu ar wefan Facebook i brotestio yn erbyn y posibilrwydd o golli rhaglen gylchgrawn Wedi 3 ar S4C.

Dywedodd trefnwyr ymgyrch ‘Achub Wedi Tri’ fod y rhaglen yn rhan “bwysig o’r sianel ac o fywyd a diwylliant Cymru”.

“Rhaglen cylchgrawn yn y prynhawn yw Wedi Tri ac mae’n achubiaeth i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi,” meddai Keith Davies.

“Dyma unig rhaglen gymunedol sy’n fyw, a lle mae’r bobl sy’n gwylio yn medru cysylltu â nhw yn uniongyrchol.

“Mae Wedi Tri yn ddelfrydol ar gyfer teledu golau dydd. Nid ar gyfer criw bach o ddeallusion y ffurfiwyd S4C.

“Ymhlith eraill, un swyddogaeth yw i ddatblygu darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn ganolog i fywyd bob dydd llawer o bobl. Dyna’r hyn mae Wedi Tri yn adlewyrchu.”