Merfyn Jones
Mae cyfarwyddwyr cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael eu penodi, cyhoeddwyd heddiw.

Nod y coleg fydd gweithio gyda a thrwy bob prifysgol yng Nghymru i ddarparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg,

Fe fydd ar waith yn ffurfiol ar Ebrill 1, 2011, yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2011.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn penodi yr Athro Merfyn Jones yn gadeirydd y Coleg ym mis Rhagfyr 2010.

Bydd 13 o aelodau ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg, gan gynnwys y Cadeirydd.

Y cyfarwyddwyr yw:

Jacqui Hare, Dirprwy Is-Ganghellor, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant

Yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth

Helen Marshall, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Morgannwg

Yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor

Katie Dalton, Llywydd NUS Cymru

Dr Hefin Jones, Uwch Ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd

Geraint James, Cyfarwyddwr Cyllid, Ymddiriedolaeth Tai Cyfle

Gareth Pierce, Prif Weithredwr, CBAC

Dr Ian Rees, Dirprwy Bennaeth, Coleg Llandrillo Cymru; Is-Gadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru

Linda Wyn, Dirprwy Bennaeth, Coleg Menai

Cafodd chwech o’r chyfarwyddwr eu henwebu gan sefydliadau addysg uwch Cymru.

Mae pedwar cyfarwyddwr annibynnol, un yn cynrychioli staff addysgu cyfrwng Cymraeg ac un yn cynrychioli myfyrwyr.

Fe fydd y bwrdd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 30 Mawrth 2011.

‘Profiad’

Dywedodd Cadeirydd y Coleg, Merfyn Jones, ei fod yn croesawu’r penodiadau.

“Bydd y cyfarwyddwyr yn cymryd rhan mewn penderfyniadau allweddol ar strategaethau a pholisïau’r Coleg ac yn cyfrannu at gyflawni cyfrifoldebau’r Coleg wrth gynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r trawstoriad eang o unigolion a fydd yn dod ag ystod briodol o brofiad ac arbenigedd o’r sector addysg uwch a thu hwnt.”

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Cadeirydd Addysg Uwch Cymru, bod penodi’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn “gam pwysig yn y broses o droi’r Coleg yn realiti”.

“Bydd medrau a phrofiad y rheiny a benodir yn ein helpu i fwrw ymlaen â datblygiadau sylweddol pellach ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae ehangu mynediad yn y maes hwn yn her sy’n gofyn am weithredu gan amrywiaeth o gyrff ac asiantaethau yng Nghymru, felly bydd cael cynrychiolwyr o’r sector addysg ehangach ar y Bwrdd yn fuddiol iawn o ran helpu i gynyddu cyfranogiad.”