Dai Jones, Llanilar
Bydd y cyflwynydd Dai Jones yn ffarwelio â’r Fferm Ffactor yr Hydref hwn, ac yn ildio’i sedd i wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr y rhaglen.

“Dwi’n meddwl bod hi’n amser i ffermwr arall gael y cyfle i feirniadu,” meddai Dai Jones, sy’n trosglwyddo’r awenau i enillydd cyfres cyntaf Fferm Ffactor.

Mae Aled Rees, o Aberteifi, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen i ymuno â’r academydd amaethyddol, yr Athro Wynne Jones, ar banel beirniaid y rhaglen.

“Roedd yn deimlad anhygoel i gael ennill y gystadleuaeth ac roedd yn golygu gymaint i fi ac i’n nheulu,” meddai Aled Rees, “felly pan ges i’r cyfle i feirniadu’r gyfres, roedd yn rhaid imi ei gymryd.”

O ffermio i feirniadu…

Ffermwr organig o Aberteifi yw Aled Rees, ac mae’n ffermio tua 600 erw gyda’i ewythr a’i wraig Hedydd.

Yn ogystal â theitl Fferm Ffactor, mae Aled Rees wedi ennill sawl gwobr amaethyddol dros y blynyddoedd, gan gynnwys gwobrau am y llaeth sy’n cael ei gynhyrchu ar y fferm.

Bob wythnos, bydd Aled Rees a’r Athro Wynne Jones, yn cadw llygad ar y cystadleuwyr wrth iddyn nhw gyflawni cyfres o dasgau amaethyddol ymarferol, busnes a gwybodaeth gyffredinol. Yna ar ddiwedd bob rhaglen, bydd y beirniaid yn gorfod cael gwared ar un cystadleuydd.

‘Mewn dwylo da’

“Bydd Aled Rees yn gwneud jobyn penigamp ohoni,” meddai Dai Jones.

“Mae’r gyfres hon wedi rhoi cyfle gwych i ffermwyr ddangos yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen mewn ffermio modern, ac mae Aled wedi bod yn llysgennad gwych i’r diwydiant ers iddo ennill y gyfres yn 2009,” meddai.

Mae Aled Rees yn dweud y bydd hi’n “anodd cymryd lle Dai Jones Llanilar,” ond mae yn credu bod ei brofiad fel cyn-gystadleuydd yn mynd i fod o help iddo.

“Byddai’n gallu uniaethu gyda’r cystadleuwyr achos rydw i wedi bod yn rhan o’r un broses, wedi mwynhau’r uchafbwyntiau, profi’r isafbwyntiau a chymryd rhan mewn tasgau tebyg,” meddai.

Mae Fferm Ffactor wrthi’n chwilio am gystadleuwyr ar gyfer y gyfres nesaf yn barod, ac yn galw ar unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â thîm Fferm Ffactor ar 01286 685300 neu mynd i’r wefan s4c.co.uk/ffermffactor, cyn Dydd Iau 31 Mawrth.

Bydd Fferm Ffactor yn dychwelyd, gyda Daloni Metcalfe, yn yr Hydref.