Mochyn daear
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi beirniadu’r ymgyrch yn erbyn difa moch daear gan ddweud bod eu dadleuon yn Siambr y Senedd ddoe yn “gamarweiniol”.
Ddoe fe gafodd cynnig i ddifa moch daear gefnogaeth mwyafrif yr Aelodau Cynulliad.
Ond dywedodd Brian Thomas, un o aelodau Undeb Amaethwyr Cymru, a wyliodd y ddadl, bod “anghywirdeb a natur gamarweiniol rhai o’r datganiadau yn syfrdanol”.
“Mae’n warth bod y fath ddatganiadau wedi eu gwneud yn Siambr ein Cynulliad Cenedlaethol,” meddai.
Roedd yr Aelodau Cynulliad, Peter Black, Lorraine Barrett, Irene James a Jenny Randerson wedi cynnig diddymu’r mesur. Cafodd ei wrthod o 42 pleidlais i 8.
“Roedd Peter Black wedi dyfynnu data oedd wedi ei gyhoeddi gan y Grŵp Gwyddoniaeth Annibynnol ym mis Chwefror 2010,” meddai Brian Thomas, sy’n ffermwr o Sir Benfro.
“Daeth y grŵp hwnnw i ben pedair blynedd yn ôl, ond fe benderfynodd ddyfynnu data gafodd ei gywiro ym mis Mehefin 2010.
“Mae gan bobol yr hawl i wrthwynebu difa moch daear ond mae’n warthus bod Aelodau Cynulliad yn camarwain y Cynulliad Cenedlaethol, yn fwriadol ai peidio.
“Nid yw’n ormod i ofyn bod y bobol sy’n cael eu hethol i arwain Cymru yn gwybod y ffeithiau i gyd.”
‘Pysgodyn’
Roedd gan Brian Thomas hefyd eiriau cas i’w dweud am Brian May, cyn aelod o fand Queen, sy’n un o arweinwyr yr ymgyrch yn erbyn difa’r moch daear.
“Mae Brian May yn dweud fod TB ychol yn ‘firws’. Mae hynny’r un mor wallus a dweud fod buwch yn fath o bysgodyn,” meddai.
“Mae’n dangos y dylid meddwl dwywaith cyn gwrando ar unrhyw beth arall y mae’r dyn yn ei ddweud.
“Mae pobol sydd â barn gref yn gallu bod yn ddall wrth edrych ar y ffeithiau ac mae’n anochel eu bod nhw’n gwneud camgymeriadau.
“Diolch byth mae’r rhan fwyaf o Aelodau Cynulliad wedi cymryd cam yn ôl, wedi asesu’r dystiolaeth, ac wedi penderfynu cefnogi difa moch daear.”