Protest Coleg Gwent
Mae darlithwyr prifysgolion a cholegau ar draws Cymru ar streic heddiw er mwyn protestio yn erbyn toriadau i gyflogau a phensiynau.

Mae’r streic, sy’n cynnwys darlithwyr o 500 o golegau a phrifysgol ar draws y Deyrnas Unedig, wedi ei drefnu gan Undeb y Colegau a’r Prifysgolion.

Dywedodd yr undeb bod staff wedi cael “llond bol o bobol yn dweud wrthyn nhw bod yn rhaid iddyn nhw dalu am argyfwng economaidd a achoswyd gan eraill”.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb y Colegau a’r Prifysgolion wrth Golwg 360 fod aelodau o “bob un prifysgol yng Nghymru” yn cymryd rhan yn y streic, gyda llinellau picedi o Gaerdydd i Fangor.

Dyma streicio cenedlaethol cyntaf i brifysgolion y Deyrnas Unedig ers pum mlynedd, a’r cyntaf i’r colegau er 1998.

Picedi ar draws Cymru

Dywedodd Undeb y Colegau a’r Prifysgolion bod deg o brifysgolion Cymru yn mynd i gael eu heffeithio gan y streiciau, ddechreuodd am 7.30am y bore ma.

Roedd disgwyl i bicedwyr Caerdydd fynd a’u protest i lawr at y Senedd erbyn hanner dydd heddiw, a dywedodd un aelod o Undeb y Colegau a’r Prifysgolion eu bod nhw’n disgwyl y bydd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn dod allan i annerch y dyrfa.

Bydd y protestwyr yn cynnal ‘Gwrthdystiad yn erbyn y Toriadau’ y tu allan i Brif Adeilad y Celfyddydau ym Mangor am 1pm, ac mae rhai darlithwyr wedi gofyn i fyfyrwyr ymuno â nhw yn y brotest.

Y streic heddiw yw’r diweddaraf mewn cyfres o wrthdystiadau gan undebau’r prifysgolion yn erbyn newidiadau yn eu pensiynau a thoriadau mewn tâl.

‘Cymhlethu pethau’

Mae’r streic ddiweddaraf wedi ei feirniadu gan Asiantaeth Cyflogwyr Colegau a Phrifysgolion am “gymhlethu’r ddadl”.

Yn ôl Cadeirydd yr Asiantaeth, yr Athro Keith Burnett, maen nhw’n “siomedig iawn gyda’r penderfyniad i weithredu’n ddiwydiannol”.

“Rydyn ni’n pryderu fod Undeb y Colegau a’r Prifysgolion yn drysu eu haelodau, staff, a myfyrwyr, drwy gyfuno canlyniadau ballot ar wahân mewn un streic gyffredinol.

“Y gobaith oedd y byddai Undeb y Colegau a’r Prifysgolion yn cyd-weithio gyda sefydliadau addysg uwch yn ystod y cyfnod o newid ac ansicrwydd hwn, nid yn eu herbyn.”