Cafodd mwy na 2,000 o dwithwyr o Gymru eu herlyn am beidio â gwisgo gwregys diogelwch yn ystod ymgyrch gan yr heddlu ym mis Chwefror.
Roedd pob un o heddluoedd Cymru – yn ogystal â’r gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol – wedi cymryd rhan yn Ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cymru.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi atal 2,224 o bobol am beidio â gwisgo eu gwregysau diogelwch.
- Cafodd 514 o bobol eu dal yn ardal Heddlu De Cymru, a 812 o bobol yng Ngwent.
- Yn ardal Heddlu Dyfed Powys, cafodd 669 eu dal, a 209 yng Ngogledd Cymru.
Roedd 46 o’r troseddau yn ymwneud â phlentyn heb wregys.
‘Siom’
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd, Cliff Filer, o Heddlu De Cymru, ei fod yn siomedig bod cymaint wedi eu dal heb wregys.
“Bob blwyddyn mae tua 1,000 o bobol yn goroesi damweiniau ffordd o ganlyniad i wisgo gwregys diogelwch,” meddai.
“Dim ond eiliad mae’n ei gymryd i’w roi yn ei le – ond gallai canlyniadau peidio â gwneud hynny barhau oes.
“Gall peidio â gwisgo gwregys fod yn farwol, ac rydyn ni’n benderfynol o ostwng nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd.”
Yn ystod mis Chwefror fe fuodd yr heddlu yn atal gyrwyr ar y ffyrdd a rhoi dirwy i’r rheini nad oedd yn gwisgo gwregys diogelwch.
Fe allai gyrwyr neu deithwyr sydd ddim yn gwisgo gwregys wynebu dirwy o £500.
Dywedodd llefarydd ar ran Diogelwch Ffyrdd Cymru fod angen gwneud rhagor i dynnu sylw pobol at y peryglon.
“Gall y penderfyniad i wisgo gwregys achub bywydau ac mae angen i yrwyr a theithwyr adnabod pwysigrwydd eu gwisgo, nid yn unig er eu lles eu hunain ond er lles pobol eraill hefyd,” meddai Susan Storch, Cadeirydd y mudiad.