Ni fydd cael maer i Ynys Môn ddim yn datrys problemau’r cyngor sir, yn ôl un o gynghorwyr mwyaf adnabyddus yr ynys.

Mae Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i ymgyrch sydd ar droed i gasglu 5,000 o enwau ar ddeiseb, er mwyn cynnal refferendwm ar Faer i Ynys Môn, efallai mor fuan â’r flwyddyn nesaf.

Ond nid maer etholedig yw’r ateb, yn ôl Bob Parry, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor sir.

“Byddai maer yn llawer mwy costus”, meddai Bob Parry, gan ychwanegu bod trefn maer Llundain wedi denu personoliaethau “dadleuol” fel Ken Livingstone a Boris Johnston sydd yn “tynnu sylw atynt eu hun”.

“Mae pobol Ceredigion wedi gwrthod y syniad o Faer yn barod”, meddai Bob Parry, gan gyfeirio at fethiant ymgyrch gan rai o ymgyrchwyr iaith Ceredigion i sefydlu maer dros yn sir honno trwy refferendwm yn 2004.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 24 Mawrth