Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Materion Prydeinig fydd prif ffactor Etholiad Cynulliad ym mis Mai, yn ôl un o sylwebwyr gwleidyddol mwyaf profiadol Cymru.

Mae Gareth Hughes yn rhybuddio bod gan y Blaid yn wynebu brwydr ddidostur i ddal eu gafael ar ei seddi presennol, heb sôn am ennill seddi newydd.

Mae pôl piniwn diweddaraf YouGov/ITV Wales yn dangos gogwydd, neu ‘swing’, o 9% i’r Blaid Lafur oddi wth Plaid Cymru.

Roedd gogwydd 15% i’r Blaid Lafur pan gollodd Plaid Cymru ward Glan-yr-afon yng Nghaerdydd, lle bu Prif Weithredwr y Blaid, Gwenllian Lansdown, yn gynghorydd sir.

“Ffactorau cenedlaethol (Brydeinig) sydd yn mynd i gael yr effaith fwyaf ar yr etholiad yma,” meddai Gareth Hughes.

“Mae’r hyn sydd yn digwydd yn Llywodraeth San Steffan am gael effaith uniongyrchol ar Etholiad y Cynulliad.

“Mae elfen go’ gref o bobol yn rhoi eu barn ar y llywodraeth yn San Steffan. Pwy sydd yn mynd i elwa o hynny? Y Blaid Lafur, fel y brif wrthblaid yn San Steffan.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 24 Mawrth