Jane Hutt
Mae yna anghytundeb tros werth y Gyllideb i Gymru – dim ond £65 miliwn o arian ychwanegol tros bum mlynedd, meddai Llafur, ond fe fydd 1.1 miliwn o bobol yn ennill o ran treth, meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd yr anghytuno’n arwydd o’r ymateb cymysg – disgwyliedig – i ail Gyllideb George Osborne, a hwnnw’n rhannu’n fras ar hyd llinellau gwleidyddol.

Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru, er enghraifft, wedi croesawu’r gostyngiad yn y dreth ar danwydd a’r addewid i sefydlogi pris petrol.

Fe fyddai cynnydd pellach wedi bod yn ddinistriol i gefn gwlad,  meddai Llywydd yr undeb, Gareth Vaughan.

Colli cyfle – meddai Llywodraeth Cymru

Roedd un o weinidogion Llafur Llywodraeth Cymru’n beirniadu’r Gyllideb am fod yn gyfyng ond fe fydd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn gofyn am gyfarfod buan gyda’r Trysorlys.

“Roedd gan y Canghellor gyfle i weithredu i helpu teuluoedd sydd dan bwysau ar hyd a lled Cymru, sy’n diodde’ o gynnydd prisiau yn ogystal â chynnydd mewn trethi a llai o fudd-daliadau. Dw i’n siomedig na chymerodd y cyfle hwnnw,” meddai.

Fe ddywedodd y byddai’n edrych yn ofalus ar gynlluniau Llywodraeth Prydain i greu Parthau Menter yn Lloegr ond din ond £65 miliwn o arian ychwanegol a fyddai’n dod i Lywodraeth Cymru. Ond roedd hi’n croesawu addewid i drafod ariannu teg i Gymru.

Fe fydd hi’n ceisio cael cyfarfod buan gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, meddai, i drafod hynny ac effaith y Gyllideb.

Dyma rai o’r ymatebion eraill

“Mae’n dod yn glirach o ddydd i ddydd nad yw toriadau George Osborne yn gweithio, ond mae’n benderfynol o barhau gyda’r un hen bolisïau Fe ddylen nhw fod yn rhoi hwb i’r economi yn y cyfnod yma yn y dirwasgiad, gan greu swyddi newydd a’r economi carbon-isel sydd mor angenrheidiol i ni.” – Jake Griffiths, Arweinydd Plaid Werdd Cymru.

“Fe fydd y toriadau trethi i weithwyr yng Nghymru, sydd wedi dod yn uniongyrchol o faniffesto etholiad y Democratiaid Rhyddfrydol, yn gostwng treth incwm o £326 i fwy nag 1.1 miliwn o weithwyr yng Nghymru, gan olygu na fydd 51,000 yn talu treth incwm o gwbl. Mae’n glir bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw wedi gosod llwybr clir ar gyfer adfer twf yn yr economi.”- Kirsty Williams, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Fe fydd y Gyllideb heddiw yn rhwyddhau pethau i deuluoedd, pensiynwyr a busnesau bach ar draws Cymru, sydd wedi gorfod tynhau genau’r sach i gwrdd â’r cynnydd ym mhris tanwydd. Mae hon yn Gyllideb ar gyfer sefydlogrwydd, swyddi a thwf.” Nick Bourne, Arweinydd Ceidwadwyr Cymru.