Pencadlys S4C - aros am Gadeirydd
Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn dweud bod anghydfod rhwng llywodraethau Cymru a Phrydain tros gadeirydd newydd Awdurdod S4C.

Yn ôl Cyfarwyddwr y Sefydliad, John Osmond, fe fydd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, yn dod i lawr i Gaerdydd yr wythnos nesa’ i geisio datrys yr anghydfod.

Mae’n ymddangos bod y ddwy lywodraeth yn ffafrio ymgeiswyr gwahanol o blith y pedwar a oedd wedi eu cyfweld.

Mae’r ffrae’n egluro pam fod cymaint o oedi tros y swydd – does dim cyhoeddiad wedi bod dair wythnos ers y cyfweliadau a sawl diwrnod ers i Golwg360 gyhoeddi mai cyn-bennaeth ELWA, Enid Rowlands, oedd y ffefryn.

Cyfweliadau newydd

Roedd y stori’n gry’ yng Nghaerdydd – ymhlith y gymuned deledu a gwleidyddion – mai hi fyddai’n cael y swydd ond mae’n ymddangos bod rhwystr i hynny.

Yn ôl John Osmond ar wefan y Sefydliad fe fydd cyfweliadau pellach yn cael eu cynnal gyda’r pedwar.

Mae Golwg 360 yn deall mai’r rheiny yw Enid Rowlands, yr Is-Gadeirydd presennol, Rheon Tomos, cyn-Brif Weithredwr S4C, Huw Jones, a chyn-Gyfarwyddwr Polisi’r sianel, Emyr Byron Hughes.

Mae pob un o’r pedwar naill ai wedi gweithio i S4C neu fod ar yr Awdurdod o’r blaen.