Y drogen - dermacentor reticulates (Rainer Altenkamp CCA 3.0)
Mae math o drogen dramor wedi cael ei ffeindio ar gŵn yng ngorllewin Cymru gan greu pryderon y gallai ledu clefydau newydd i bobol.

Roedd gwaith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bryste’n awgrymu bod y drogen – tick –  bellach wedi setlo yn y Gorllewin ac mewn rhannau o dde Lloegr.

Yn Ewrop, mae hon – dermacentor reticulates – yn cael y bai am drosglwyddo nifer o afiechydon i bobol. Y gred yw ei bod wedi lledu oherwydd newid yn yr hinsawdd.

Gwaeth na’r disgwyl

Yn gyffredinol, roedd yr ymchwil hefyd yn dangos bod llawer mwy o gŵn na’r disgwyl yn cario pob math o drogod.

Roedd 3,500 o gŵn wedi eu harchwilio mewn 173 o ganolfannau milfeddygol ac, ar un adeg benodol, roedd trogod ar bron 15% ohonyn nhw.

Mae trogod yn gallu cario pob math o glefydau.

Fe gafodd y gwaith ymchwil ei gyhoeddi yn y cylchgraewn, Medical and Veterinary Entomology.