Slogan y rali ddydd Sadwrn
Mae un o’r prif undebau llafur yn honni y bydd 52,000 o swyddi’n cael eu colli yng Nghymru oherwydd y toriadau gwario.

Ac, yn ôl Unison Cymru, fe fydd y rheiny’n taro’r sector preifat lawn cymaint â’r sector cyhoeddus.

Mae’r undeb yn dweud eu bod wedi gwneud ymchwil newydd sy’n dangos y bydd y toriadau’n tynnu £3.6 biliwn allan o economi Cymru.

Ffigurau ‘ceidwadol’

Yn ôl yr undeb, amcangyfri’ ‘ceidwadol’ yw dweud y bydd 26,000 o swyddi cyhoeddus yn cael eu colli, gyda’r un nifer yn mynd yn y sector preifat hefyd.

“Gobeithion gwag yw meddwl y bydd y sector preifat yn llyncu’r colledion swyddi yn y sector preifat,” meddai Paul O’Shea, Ysgrifennydd Unison Cymru.

“Mae torri ar wario cyhoeddus yn tynnu arian o’r economi. Fydd gweithwyr sector cyhoeddus a fyddai fel rheol wedi gwario’u harian yn yr economi lleol ddim yn gallu gwneud hynny os nad oes ganddyn nhw waith.”

Rali fawr

Fe fydd yr undeb yn rhan o rali fawr sydd wedi ei galw gan Gyngres yr Undebau Llafur, y TUC, yn Llundain ddydd Sadwrn.

Roedd Paul O’Shea’n proffwydo y bydd cannoedd o filoedd o weithwyr cyhoeddus a defnyddwyr yno ac y bydd y Gyllideb heddiw’n taro pobol fregus yn galetach na neb.