Y Drindod Dewi Sant - un o'r prifysgolion sydd eisiau ymuno gyda Phrifysgol Cymru
Mae Prifysgol Cymru wedi dweud eu bod nhw’n “croesawu” yr adroddiad ar ddyfodol addysg uwch yng Nghymru heddiw, er ei fod yn awgrymu y gallai’r corff ddod i ben.

Mae Adroddiad McCormick yn rhoi tri opsiwn o ran dyfodol Prifysgol Cymru, yn cynnwys un sy’n argymell dileu’r sefydliad yn gyfan gwbl.

Ond fe ddywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Yr Athro Marc Clement, ei fod yn “hynod falch” o weld “cyfeiriad cyffredin i’r farn am ddyfodol addysg uwch yng Nghymru”.

“Ar ôl cael cyfle i ystyried yr adroddiad yn llawn,” meddai, “rydym ni’n falch o… gydnabod bod cyd-destun addysg uwch yng Nghymru a’r byd wedi newid yn radical.”

Roedd Marc Clement yn wfftio’r opsiwn sy’n awgrymu y byddai’r Brifysgol yn dod i ben, gan ddweud eu bod yn edrych ymlaen at ddyfodol yn ateb her addysg uwch yng Nghymru’r 21ain ganrif.

Maen nhw’n ystyried cynllun i ymuno gyda thair o brifysgolion eraill – ac efallai ragor – i greu un sefydliad mawr.

“A defnyddio geiriau adolygiad McCormick, ein hamcan,” meddai Marc Clement, “yw creu sefydliad sengl cwbl integredig sydd ag un genhadaeth neilltuol sy’n gwella profiad myfyrwyr, yn cryfhau gweithgarwch academaidd ac yn adeiladu statws byd-eang Cymru.”

Dywedodd fod Prifysgol Cymru “yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’n holl gydweithwyr mewn addysg uwch yng Nghymru, i gyflenwi newid radical sy’n diwallu anghenion ein cenedl yn yr 21ain ganrif.”