Un o'r picedwyr adeg y streic ddiwetha'
Fe fydd darlithwyr mewn pump o brifysgolion yng Nghymru yn mynd ar streic eto ddydd Iau.

Mae’r trefnwyr yn dweud bod streic undydd yr wythnos ddiwetha’ wedi bod yn llwyddiant gyda phicedwyr wrth fynedfeydd y pum sefydliad.

Maen nhw’n protestio’n erbyn newidiadau i gyflogau a chynlluniau pensiwn darlithwyr – maen nhw’n dweud y bydd pobol brofiadol yn colli’r hyn sydd wedi ei addo iddyn nhw ac y bydd darlithwyr newydd yn cael eu taro “yn arbennig o galed”.

Yn ôl Chris Whyley, Llywydd undeb y darlithwyr, UCU, ym Mhrifysgol Abertawe, mae’r prifysgolion wedi gwrthod mynd â’r achos gerbron y corff cymodi, ACAS.

Fe fydd y streic yn digwydd yn Abertawe, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor a Llanbedr Pont Steffan ac mae’n rhan o weithredu ar draws gwledydd Prydain.